Anrhegion i Blant y Byd:

Anrhegion i Blant y Byd:

7th November 2012

Eleni, rydym wedi penderfynu cymryd rhan yn y prosiect Nadolig ‘Operation Christmas child’.

Pwrpas y prosiect yw i sicrhau bod plant anghenus ar draws y byd yn cael anrheg i’w agor ar ddiwrnod Nadolig.

Os hoffech gymryd rhan, mae’r holl wybodaeth sydd angen arnoch chi ar y daflen sydd wedi mynd adref gyda'ch plentyn. Os oes unrhyw broblem, cysylltwch gyda Miss Jones yn yr ysgol.

Bydd angen i chi ddod a’ch bocs/bocsys i’r ysgol erbyn dydd Gwener, yr 16eg o Dachwedd.

Diolch yn fawr am gymryd rhan.


^yn ôl i'r brif restr