Canllawiau Eira:
17th January 2013
Dyma ganllawiau'r ysgol mewn achos o eira trwm:
Mewn achos o eira trwm, byddwn yn :
•cyfathrebu i rieni statws yr ysgol ar wefan yr ysgol.
www.ysgolgymraegcwmbran.co.uk
BBC Radio Cymru / Wales – Radio Red Dragon – Gwefan Torfaen
•sicrhau bod un llwybr clir i’r prif adeilad oddi wrth y perimedr allanol (y giât flaen) ac un prif lwybr troed o faes parcio’r staff.
•hysbysu rhieni (drwy’r wefan) am unrhyw oedi i amser dechrau’r diwrnod ysgol, h.y gall difrifoldeb amodau fynnu amser ychwanegol er mwyn sicrhau bod
1.Y llwybrau i’r ysgol yn ddiogel.
2.Bod nifer digonol o staff ar y safle i ddarparu ar gyfer y disgyblion.
•cau’r giatiau blaen ar gyfer cerbydau os yw amodau gyrru yn yr ardal yn beryglus.
•gosod grit mewn mannau strategol o gwmpas yr ysgol.
•sicrhau bod drysau allanfa tân yn glir.
•yn cadw’r hawl i gyfuno dosbarthiadau er mwyn manteisio i’r eithaf ar nifer y staff sydd ar gael.
Bydd yr Ysgol yn cau fel cam terfynol yn dilyn trafodaethau rhwng y Pennaeth, Yr Adran Addysg a Chadeirydd y Llywodraethwyr.
Diolch yn fawr.