Yfory: (Dydd Mercher)
22nd January 2013
Dyma'r diweddaraf am yr eira yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân:
Byddwn yn cadarnhau erbyn 7:30 os ydym ar agor yfory sef dydd Mercher, Ionawr 23ain.
Os ydy'r ysgol ar agor yfory, dim ond un llwybr fydd ar gael, sef llwybr o'r brif fynedfa i'r drws ar ochr yr ysgol. Bydd rhaid i blant y feithrin ddefnyddio'r drws hwn hefyd. Fydd dim ceir â mynediad i'r safle.
Nid yw Arlwyo Torfaen yn gallu cadarnhau os bydd cinio ysgol ar gael tan 8 o'r gloch. Mae'r bwyd yn cael ei gludo i ni o New Inn. Os ydych yn gadael y ty cyn yr amser hwn, gofynnwn yn garedig i chi ddarparu pecyn cinio ar gyfer eich plentyn / plant.
Byddwn yn cadarnhau erbyn 7:30 os ydym ar agor neu ar gau.
Diolch am eich cydweithrediad.