Clwb 100:
20th February 2013
Ymunwch gyda’n clwb 100 yn yr ysgol.
Danfonwyd llythyr adref ddoe yn rhoi gwybodaeth am Glwb 100 yr ysgol.
Am £1 y mis, rydym yn gofyn wrth rieni a ffrindiau’r ysgol i ymuno yn ein clwb 100. Bydd rhif yn cael ei dynnu bob mis a bydd hanner yr arian yn mynd i’r ysgol a’r hanner arall yn mynd i’r enillwr. Y mwyaf o bobl sy’n ymuno, y gorau fydd hi i’r ysgol.
Am fwy o fanylion, cysylltwch gyda Miss Passmore neu Ms Painter yn yr ysgol.
Diolch.