Trefniadau'r Wythnos:
25th February 2013
Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
Dydd Llun:
Ymarfer ymgom ar ol ysgol tan 4:30.
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth disgybl yr wythnos.
(9:10 yn y neuadd)
Clwb LEGO ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.
(12:30-1)
Clybiau Chwaraeon:
Clwb dawns ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 yn yr ysgol. (3:30-4:30)
Pel-droed yn y Ffatri Bel-droed.
(4-5)
Clwb gwnio yn yr ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 3.
(3:30-4:30)
Dydd Mercher:
Bydd Undeb Rygbi Cymru yn cynnal gwersi rygbi gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 2.
Clwb TGCh i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2.
(12:30-1)
Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Ymarferion partion yr Eisteddfod yn yr ysgol tan 4:30.
Dydd Iau:
Bydd Undeb Rygbi Cymru yn cynnal gwersi rygbi gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 2.
Clwb darllen ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn ystod amser cinio.
(12:30-1)
Ymarfer côr ar ôl ysgol tan 5.
Dydd Gwener:
Dydd Gwyl Dewi. Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad Cymreig.
Dydd Sadwrn:
Eisteddfod Gylch yr Urdd - manylion i ddilyn.
9 o'r gloch yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd.
Gweler llythyr Miss Griffiths am fwy o wybodaeth.
Diolch.