Wythnos Hybu Iechyd a Ffitrwydd:

22nd October 2013
Mae wythnos hybu iechyd wedi'i threfnu yn yr ysgol yr wythnos hon.
Yn ystod yr wythnos, bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gwahanol megis chware pêl-droed yn y Ffatri Bêl-droed, gwneud zumba yn neuadd yr ysgol, chwarae hoci yn y Stadiwm, coginio, dawnsio a llawer mwy.
Dechreuodd yr wythnos ddoe gydag Arlwyo Torfaen yn gwneud gwasanaeth arbennig ar fwyta'n iachus a rhoddwyd gwasanaeth ar yr hyn i'w gynnwys mewn pecyn bwyd iachus.
Bydd yr wythnos yn gorffen gyda'n tasg cinio noddedig ddydd Iau a dydd Gwener.
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad ymarfer corff drwy'r wythnos.
Diolch.