Trefniadau'r Wythnos:

25th November 2013
Dyma rai pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yn ystod yr wythnos.
Dydd Mawrth:
Trip dosbarthiadau Miss Passmore a Miss Heledd Williams i Big Pit.
Bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol ac esgidiau addas. Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion hefyd.
(Cost y daith yw £5)
Ymarfer rygbi ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb gwnio ar gyfer plant blwyddyn 2 tan 4:30. (£1)
Cyngerdd y Cor.
(6:15 yn Theatre Congress)
Dydd Mercher:
Trip dosbarthiadau Miss Wena Williams, Mr Ifan a Miss Griffiths i Big Pit.
Bydd angen iddynt wisgo gwisg ysgol ac esgidiau addas. Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion hefyd.
(Cost y daith yw £5)
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30. (£1)
Cystadleuaeth Rygbi.
Dydd Iau:
Rygbi'r Urdd.
Ymarfer côr ar ôl ysgol tan 4:30.
Dydd Gwener:
Panto y Cyfnod Sylfaen.
(£8)
Diolch yn fawr.