Diwrnod E-ddiogelwch:

11th February 2014
Rydym yn dathlu diwrnod e-ddiogelwch yn yr ysgol heddiw:
Ddoe, daeth PC Thomas i'r ysgol i gynnal gwasanaeth gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 2. Siaradodd PC Thomas am bwysigrwydd bod yn ofalus ac yn saff ar y we.
Gwahoddwyd rhieni mewn i drafod e-ddiogelwch gyda PC Thomas ar ôl ysgol yn ogystal.
Bydd y disgyblion yn gwneud gweithgareddau gwahanol ar e-ddiogelwch heddiw yn yr ysgol.
Edrychwch ar y wefan isod am fwy o wybodaeth os ydych yn dymuno.
Diolch.