Trefniadau'r Wythnos:

2nd March 2014
Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
Gan ei bod hi'n rhan o Bythefnos Masnach Deg yr wythnos hon, bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau Masnach Deg.
Dydd Llun:
Byddwn yn dathlu Dydd Gwyl Dewi yn yr ysgol. Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad traddodiadol. Bydd y disgyblion sy'n cymryd rhan yn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn yn perfformio i weddill yr ysgol.
Dydd Mawrth:
Cinio Dydd Gwyl Dewi.
(Codir y pris arferol ar y cinio ysgol.)
Ymarfer pêl-droed ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 yn y Ffatri bêl-droed. (4-5)
Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb gwnio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30. (50c)
Dydd Mercher:
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30. (£1)
Dydd Iau:
Ymarfer côr ar ôl ysgol tan 4:30 gan fod cyngerdd yn Theatr y Congress am 7 o'r gloch.
(Bydd llythyr yn mynd adre i rieni yfory yn eu hatgoffa am y trefniadau.)
Dydd Sadwrn:
Eisteddfod Gylch yr Urdd.
(Bydd llythyr yn mynd adre i rieni gyda'r trefniadau yfory. Gofynnwn yn garedig i chi ddarllen y llythyr yn ofalus gan nad oes angen i bawb ddod i'r Eisteddfod ddydd Sadwrn.)
Diolch yn fawr.