PWYSIG - Eisteddfod Gylch yr Urdd:

3rd March 2014
Bydd dau lythyr pwysig yn mynd adref heno - un i'r disgyblion sydd YN cymryd rhan yn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn ac un ar gyfer y disgyblion sy'n mynd yn syth i'r rownd nesaf.
Ar ol derbyn y rhaglen o'r Urdd ddoe, rydym wedi gweld bod rhai eitemau yn mynd yn syth i'r rownd nesaf.
Bydd y llythyr rydych yn derbyn heno yn egluro hyn. Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau eich bod yn darllen y llythyr yn ofalus.
Os ydy eich plentyn yn cystadlu yn y cystadlaethau canlynol YN UNIG, nid oes rhaid iddynt berfformio ddydd Sadwrn:
Y cor.
Parti deulais
Dawnsio disgo.
Os oes unrhyw gwestiynau eraill gyda chi, cysylltwch gyda Miss Passmore yn yr ysgol.
Diolch.