Cyngherddau Côr:

6th March 2014
Mae dwy gyngerdd gyda chôr yr ysgol dros yr wythnosau nesaf - un heno ac un nos Wener, Mawrth 14eg yng Nghaerdydd.
Mawrth 6ed:
Theatr y Congress, Cwmbrân.
Bydd Miss Hughes yn cwrdd â'r plant yn y theatr am 6:45. Bydd y côr yn perfformio am 7:20.
Dylai'r plant wisgo gwisg y côr, yn cynnwys crys wen a thei.
Nos Wener, Mawrth 14eg:
Teml Heddwch, Caerdydd.
Bydd y côr yn canu mewn cyngerdd sydd wedi'i threfnu gan 'Achub y Plant'.
Gall y plant aros ar ôl ysgol ar y nos Wener.(Bydd angen pecyn cinio arnynt os gwelwch yn dda.)
Byddant yn cyrraedd Caerdydd erbyn 6 ac yn dychwelyd i Ysgol Gymraeg Cwmbrân erbyn 7:30.
Unwaith eto, bydd angen gwisg y côr ar y disgyblion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y trefniadau, cysylltwch gyda Miss Hughes neu Miss Passmore yn yr ysgol.
Diolch.