Yr Eisteddfod:

9th March 2014
Llongyfarchiadau i bob un gymerodd ran yn yr Eisteddfod Gylch ddoe.
Mae'r disgyblion wedi bod yn gweithio'n galed iawn dros y misoedd diwethaf a gwnaeth pob un yn wych yn yr Eisteddfod ddoe. Llwyddwyd i ennill y darian ar gyfer yr ysgol gyda'r nifer mwyaf o bwyntiau felly da iawn i bawb.
Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am eu gwaith caled gyda'r holl ymarferion sydd wedi bod yn digwydd ers Nadolig yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.
Dyma rai o'r canlyniadau o ddoe:
(Mae'r disgyblion / grwpiau ddaeth yn gyntaf neu'n ail yn mynd ymlaen i gynrychioli Llanofer yn yr Eisteddfod Sir ar ddydd Sadwrn, Mawrth 29ain yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.)
Unawd Bl 5 a 6:
Daniel Lee (1af)
Deuawd:
Daniel a Martha (1af)
Carys ac Olivia (2il)
Parti Unsain:
1af.
Alaw werin:
Daniel Lee (1af)
Llefaru Bl 2:
Kayleigh Putnam (2il)
Llefaru 5 a 6:
Kai Fish. (1af)
Daniel Lee (3ydd)
Grwp Llefaru:
1af.
Ymgom:
1af.
Da iawn unwaith eto i bawb a diolch yn fawr iawn i rieni / gwarchodwyr am yr holl gymorth gyda'r Eisteddfod a'r ymarferion ychwanegol.
Pob lwc i bawb yn yr Eisteddfod Sir.
(Bydd llythyr yn mynd allan yn agosach at yr amser.)