Cyfarfod i rieni blwyddyn 6 a thaith i Ysgol Gyfun Gwynllyw.
31st March 2014
Bydd llythyr yn mynd allan i rieni heno yn rhoi gwybodaeth am gyfarfod ar gyfer rhieni blwyddyn 6 nos Lun a thaith i Wynllyw.
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Ysgol Gyfun Gwynllyw ddydd Llun nesaf rhwng 10 a 2. Byddant yn cymryd rhan mewn helfa drysor o gwmpas yr ysgol.
Nid oes angen i chi roi caniatâd am hyn gan eich bod wedi gwneud yn barod ar ddechrau’r flwyddyn. Bydd Gwynllyw yn darparu cinio ar gyfer pob un. Os ydy eich plentyn yn dioddef o asthma, gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod pwmp gyda fe / hi ar y dydd.
Cyfarfod Rhieni: Bydd cyfarfod pwysig ar gyfer rhieni blwyddyn 6 gydag athrawon Gwynllyw yma (yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân) nos Lun nesaf, Ebrill 7fed, am 6 o’r gloch. Os nad ydych yn gallu mynychu’r cyfarfod, gadewch i fi wybod os gwelwch yn dda.