Trefniadau'r Wythnos:

19th May 2014
Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
Dydd Mawrth:
Clybiau ar ôl ysgol:
Clwb coginio ar gyfer plant blwyddyn 2 tan 4:30. (£1)
Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 yn yr ysgol tan 4:30.
Clwb criced ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 yn yr ysgol tan 4:30.
Dydd Mercher:
Clwb yr Urdd ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Dydd Iau:
Gwasanaeth Blwyddyn 4 Miss Hazel Williams.
9:10 yn neuadd yr ysgol.
Ymarfer côr ar ôl ysgol tan 5.
Disgo PTA:
6:30 - 7:30 yn yr ysgol.
Dydd Gwener:
Stondin hufen iâ PTA ar iard yr ysgol. 3:30.
Bydd yr ysgol yn gorffen dydd Gwener ar gyfer wythnos o wyliau. Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Llun, Mehefin 2il.
Os ydy eich plentyn yn cystadlu yn yr Eisteddfod, plis sicrhewch eich bod wedi derbyn llythyr gyda'r manylion i gyd.
Diolch yn fawr.