Llongyfarchiadau i bawb gymerodd ran yn yr Eisteddfod.

28th May 2014
Teithiodd 36 disgybl i'r Bala er mwyn cymryd rhan yn yr Eisteddfod ddoe.
Er na chafodd y disgyblion lwyddiant, perfformiodd y cor a'r parti llefaru yn wych ac rydym yn falch iawn ohonyn nhw i gyd.
Llongyfarchiadau unwaith eto i Lilly-Grace a ddaeth yn drydydd gyda'i gwaith tecstiliau creadigol. Roedd ei gwaith yn cael ei arddangos ar faes yr Eisteddfod drwy'r wythnos.
Da iawn i bawb a diolch i bob un am yr holl gefnogaeth.