Mabolgampau:

10th June 2014
Os ydy’r tywydd yn ffafriol yfory, bydd Mabolgampau’r Cyfnod Sylfaen yn mynd yn ei flaen a bydd mabolgampau Cyfnod Allweddol 2 yn mynd ymlaen ddydd Gwener os ydy hi’n braf.
Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod gan eich plentyn / plant ddigon o eli haul a dŵr ar y diwrnodau hyn.
Gall y disgyblion ddod i’r ysgol yn eu dillad ac esgidiau chwaraeon.
Bydd y mabolgampau yn rhedeg o 9:30-11:45 yn y bore ac o 1:30 tan 2:30 yn y prynhawn ar y ddau ddiwrnod.
Bydd y PTA yn gwerthu lluniaeth ysgafn ar y ddau ddiwrnod.
Byddwn yn diweddaru'r wefan yfory er mwyn dweud os ydy'r mabolgampau yn digwydd.
Diolch yn fawr.