Diwrnod Agored ar gyfer rhieni blwyddyn 5 yn Ysgol Gyfun Gwynllyw.

10th June 2014
Bydd rhieni disgyblion blwyddyn 5 yn derbyn llythyr heno yn eu gwahodd i ddiwrnod agored yn Ysgol Gyfun Gwynllyw.
Bydd y diwrnod agored yn digwydd ar ddydd Mawrth, Mehefin 24ain.
Bydd yr ymweliad yn rhoi cyfle i chi weld yr ysgol ar waith, i gwrdd â rhai o'r athrawon ac i weld yr awyrgylch Gymreig ar waith.
Bydd dau sesiwn yn ystod y dydd a cheir mwy o fanylion am y sesiynau hyn yn y llythyr.
Sesiwn 1: 2-3:30.
Sesiwn 2: 4 - 6.
Gall plant fynd gyda'u rhieni i Wynllyw os ydynt yn dymuno.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi neu os nad ydych yn derbyn llythyr heno, cysylltwch gyda Miss Passmore yn yr ysgol.
Diolch yn fawr.