Blwyddyn 6 yn Ysgol Gyfun Gwynllyw:

24th June 2014
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn ymweld gydag Ysgol Gyfun Gwynllyw ddydd Iau a bydd cyfle i rieni fynd i'r ysgol am gyfarfod yn y nos.
Bydd disgyblion blwydydn 6 yn mynd i Wynllyw ar gyfer diwrnod o wersi. Bydd angen gwisg ysgol arnynt a bydd angen par o esgidiau ymarfer hefyd.
Gofynnwn yn garedig i'r disgyblion ddod â phecyn cinio ac, os ydynt yn dioddef o asthma, rhaid iddynt ddod â phwmp gyda nhw os gwelwch yn dda.
Cyfarfod i rieni:
Bydd cyfarfod ar gyfer rhieni blwyddyn 6 yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ar Fehefin 26ain.
Bydd y cyfarfod yn dilyn fformat noson agored ac yn ystod y noson, bydd cyfle i chi:
Dalu am Lanllyn (£185)
Prynu tei a bathodyn (£10)
Gweld rhai i'r gwerslyfrau.
Gofyn unrhyw gwestiynau sydd gyda chi.
Bydd y noson yn dechrau am 6 ac yn gorffen am 7:30.
Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, cysylltwch gyda Miss Passmore yn yr ysgol.
Diolch yn fawr.