Digwyddiadau Blwyddyn 6:

4th July 2014
Dyma ddyddiadau pwysig ar gyfer diwedd y flwyddyn:
11.7.2014:
Bydd y band Bandana yn perfformio i ddisgyblion blwyddyn 6 yn neuadd yr ysgol yn y prynhawn. Bydd yr ysgol yn darparu cinio am ddim i’r disgyblion ar y diwrnod hwn. Gall y disgyblion wisgo dillad eu hunain ar y diwrnod.
14.7.2014:
Mabolgampau Gwynllyw yn Stadiwm Cwmbrân. 10-2. Gall y disgyblion wisgo dillad chwaraeon i’r ysgol. Bydd angen pecyn cinio, digon o ddŵr, eli haul a het haul ar y disgyblion.
17.7.2014:
Gwasanaeth gadael blwyddyn 6. 9:10 yn y bore yn neuadd yr ysgol.
Ar ôl ysgol: Bowlio – mwy o fanylion i ddilyn.
18.7.2014:
Diwrnod olaf yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân. (Ysgol yn gorffen am 2 o’r gloch.)