Taith Blynyddoedd 5 a 6 i Langrannog:
28th August 2014
Bydd llythyr yn rhoi mwy o wybodaeth am y daith i Langrannog yn mynd adref gyda'r disgyblion wythnos nesaf.
Bob blwyddyn, mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn cael cyfle i fynd i Langrannog am benwythnos. Eleni, byddwn yn mynd, ynghyd ag ysgolion Cymraeg eraill yr ardal, ar ddydd Gwener, Tachwedd 14eg a byddwn yn dychwelyd ar ddydd Sul, Tachwedd 16eg.
Cost y daith eleni fydd £135. Yn y pris, bydd y disgyblion yn cael eu prydau bwyd i gyd, costau teithio, aelodaeth yr Urdd am flwyddyn, gweithgareddau megis sgïo, merlota, gwibgartio, dringo, nofio ayyb, yswiriant a llety am y ddwy noson.
Byddwn yn gofyn am flaendal o o £30 erbyn dydd Gwener, Medi'r 26ain os gwelwch yn dda.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Miss Passmore.
Diolch.