Adeilad Newydd y Feithrin:

Adeilad Newydd y Feithrin:

2nd September 2014

Dyma'r trefniadau ar gyfer y tair wythnos nesaf:

Yn anffodus, mae ychydig o oedi wedi bod gydag adeilad newydd y feithrin. O ganlyniad i’r oedi, bydd caban dros dro ar gyfer plant y feithrin yn cael ei adeiladu ar iard yr adran iau. Bydd y caban ar yr iard am y tair wythnos nesaf. Oherwydd hyn, ni fydd mynediad i’r ysgol drwy’r drws ochr. Bydd ffens o gwmpas yr ardal hon o ddydd Iau, Medi’r 4ydd tan fydd y gwaith wedi’i gwblhau.

Bydd dau aelod o staff ar ddyletswydd ar iard yr adran iau o 8:40 ymlaen. Bydd yr aelodau o staff yn gyfrifol am y disgyblion sy’n dod i’r ysgol ar fws neu dacsi. Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod disgyblion yn cyrraedd yr ysgol erbyn 8:50 am. Bydd aelod o staff yn cludo’r disgyblion i’r dosbarthiadau am 8:50 er mwyn iddynt fod yn y dosbarth erbyn amser cofrestru, sef 9 o’r gloch. Rhaid i ddisgyblion sy’n cyrraedd yn hwyr (ar ôl 9 o’r gloch) fynd i’r brif fynedfa fel ein bod yn gallu cofnodi eu bod yn hwyr. Os ydy bws ysgol yn hwyr, ni fydd y disgyblion yn derbyn marc hwyr yn y gofrestr.

Bydd plant y feithrin yn cwrdd ag athrawes eu dosbarth yn y brif fynedfa am 9 o’r gloch ac am 1 o’r gloch. Dylai rieni / warchodwyr gasglu’r plant o’r brif fynedfa am 11:30 a 3:30. Bydd plant y Cyfnod Sylfaen yn cael eu harwain allan i iard yr adran iau erbyn 3:20 a bydd disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn dod i’r iard erbyn 3:30.

Er mwyn i’r athrawon gael digon o le i drefnu eu dosbarthiadau ar ddiwedd y dydd ac er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn mynd adref yn saff, gofynnwn yn garedig i rieni a gwarchodwyr i aros yng nghefn yr iard (yr ardal ar bwys yr offer chwarae/ffram ddringo) ar ddiwedd y dydd.


^yn ôl i'r brif restr