Darllen Noddedig y G.Rh.A:
24th September 2014
Mae’r darllen noddedig yn dechrau ddydd Gwener (Medi 26ain) ac yn gorffen ar yr ail o Hydref.
Os ydy pob disgybl yn yr ysgol yn codi £2, byddwn yn cyrraedd ein targed o £600. Golyga hyn y byddwn yn derbyn gwerth bron i £1000 o lyfrau i’r ysgol.
Os hoffech i’ch plentyn gymryd rhan, gofynnwn yn garedig i chi gofnodi faint o funudau mae eich plentyn yn darllen dros yr wythnos. Gofynnwn i chi ddanfon y daflen nawdd a’r arian yn ôl i’r ysgol erbyn dydd Gwener, Hydref 10fed.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth, C.Rh.A Ysgol Gymraeg Cwmbrân.