Ymweliad o Awstralia:

Ymweliad o Awstralia:

1st October 2014

Roeddem yn ddigon lwcus i gael ymweliad gan ferch o Awstralia yn yr ysgol heddiw.

Daeth cyfnither Theo a Rose, Grace, i'r ysgol bore 'ma. Aeth hi i ddosbarth Miss Passmore a Mr Bridson i weld y disgyblion ar waith. Aeth hi mewn i wasanaeth yr ysgol hefyd.

Cafodd hi gyfle i glywed y disgyblion yn canu, gweld y disgyblion ar waith a chafodd y cyfle i ofyn cwestiynau wrth y disgyblion yn y ddau ddosbarth.

Cafodd ein disgyblion gyfle i ofyn cwestiynau wrthi am fywyd ac am yr ysgolion yn gyffredinol.

Diolch i Grace am ddod i ymweld gyda ni yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr