Taith Llangrannog:
13th October 2014
Bydd y daith i Langrannog eleni ar ddydd Gwener, Tachwedd 14 tan ddydd Sul, Tachwedd 16.
Cost y daith eleni fydd £135. Mae pawb wedi talu £30 yn barod felly gofynnwn am weddill yr arian, sef £105, erbyn dydd Gwener, Tachwedd y 7fed os gwelwch yn dda.
Rydym yn gobeithio derbyn y tystysgrifau iechyd o fewn y diwrnodau nesaf felly gofynnwn yn garedig i chi eu danfon yn ôl atom cyn gynted ag y bo modd. Ar y llythyr hwnnw yn ogystal, bydd rhestr o’r hyn bydd angen ar eich plentyn yn Llangrannog e.e. sach gysgu, tywel, dillad cynnes ayyb.
Os oes brawd a chwaer yn mynd i Langrannog, maent yn cael £5 i ffwrdd o’r pris llawn.
Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi o gwbl, cysylltwch gyda Miss Passmore.
Diolch yn fawr.