Newyddion yr Hanner Tymor:

Newyddion yr Hanner Tymor:

21st October 2014

Rydym wedi cael wyth wythnos brysur yn yr ysgol hyd yn hyn. Dyma rai o’r pethau sydd wedi bod yn digwydd:

Casglu Arian:
Elusen y flwyddyn eleni yw Ymgyrch Motor Neurone Disease. Rydym wedi casglu £220 hyd yn hyn.
Diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd:
£150 tuag at Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili.
Readathon: £705. Rydym wedi prynu gwerth dros £1000 o lyfrau i’r disgyblion gyda'r arian.
Rydym hefyd wedi prynu 15 geiriadur a 15 thesawrws newydd ar gyfer pob dosbarth yng Nghyfnod Allweddol 2 gydag arian Scholastic.

Tripiau:
Aeth y tîm pêl-droed i chwarae mewn cystadleuaeth yng Nghaerdydd. Ar ôl cystadlu, aethant i wylio gem Cymru V Bosnia. Diolch yn fawr iawn i Mr Passmore am drefnu.

Gwersi Ffidil:
Mae plant blwyddyn 2 Miss Hughes wedi dechrau cael gwersi ffidil bob dydd Gwener gyda Gwent Music. Bydd dosbarth Miss Fauknall yn derbyn gwersi hefyd.

Chwaraeon:
Hoci Blwyddyn 6:
Mae disgyblion blwyddyn 6 yn derbyn gwersi hoci bob dydd Gwener.
Pêl-droed: (Casnewydd)
Mae disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn derbyn gwersi pêl-droed bob yn ail ddydd Mercher.

Clybiau:
Dyma’r clybiau sy’n bodoli ar y funud:
Gwnïo (Bl.2) Clwb yr Urdd (CA2) Côr (CA2) Gwyddbwyll (5 a 6) Rygbi (5 a 6) Clwb Ffitrwydd (4, 5 a 6)

Cyngor yr ysgol / Eco bwyllgor:
Rydym wedi cynnal etholiadau ar gyfer y cyngor ysgol a’r eco bwyllgor ac mae’r ddau gyngor wedi dechrau ar eu gwaith yn barod diolch i Miss Owen, Mrs Spansiwck a Mr Bridson.

Darllen yng Nghyfnod Allweddol 2:
Mae saith gwirfoddolwr gyda ni ar gyfer ein cynllun darllen yn CA2.
Diolch i bawb am roi eu hamser.

Presenoldeb:
Ein presenoldeb hyd yn hyn yw 95.7%. Rydym yn dal i anelu’n uwch na 96% ar gyfer y flwyddyn.

Pethau i edrych ymlaen atynt:
Taith blynyddoedd 5 a 6 i Langrannog.
(Tachwedd 14-16)
Gweithdy LEGO ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. (Tachwedd 6ed)
Taith CA2 i Gaer Rufeinig Caerleon.
(Tachwedd 19eg a’r 20fed)

Bydd yr ysgol yn ail ddechrau i’r disgyblion ar ddydd Mawrth, Tachwedd 4ydd.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr