Taith Llangrannog:

Taith Llangrannog:

6th November 2014

Dyma fwy o fanylion am y daith i Langrannog yr wythnos nesaf:
(Llythyr yn mynd adref heno)

Gofynnwn yn garedig am weddill yr arian erbyn yfory.

Diolch.

Byddwn yn gadael yr ysgol am 1 o’r gloch ar y dydd Gwener.

Gall y disgyblion wisgo dillad eu hunain i’r ysgol ar y diwrnod hwnnw.

Bydd angen digon o ddillad cynnes ar y disgyblion, gan gynnwys cot law, sgarff, menyg ayyb.

Bydd angen ‘dillad disgo’ arnynt ar gyfer y nos Sadwrn.

Bydd angen digon o ddillad (yn enwedig sanau) sbâr arnynt rhag ofn bod y tywydd yn wael.

Bydd angen dillad nofio ar y disgyblion.

Gofynnwn yn garedig i chi sicrhau bod enw ar bob eitem, gan gynnwys tywelion.

Rhaid i’r disgyblion ddod â sach gysgu a chlustog gyda nhw. (Gydag enw ar y bag.)

Gall y disgyblion ddod â £10 er mwyn gwario yn y siop yno. Byddwn yn cadw’r arian yn saff mewn loceri felly byddai’n ddelfrydol petai’r arian yn cael ei roi mewn amlen / waled gydag enw’ch plentyn arno a bod yr arian mewn punnoedd yn hytrach na phapur £10. Gall y disgyblion gadw £2 i fynd gyda nhw ar y bws er mwyn gwario yn y gwasanaethau ar y ffordd.

Os ydy’r disgyblion yn dioddef o asthma, rhaid iddynt ddod â phwmp gyda nhw neu bydd angen llythyr yn egluro pam nad oes un gyda nhw. Gwnewch yn siŵr bod enw ar y pwmp asthma os gwelwch yn dda.

Os oes unrhyw foddion gyda’ch plentyn, gan gynnwys tabledi teithio, rhaid sicrhau bod rhain yn cael eu rhoi i fi ar y bore dydd Gwener. (Rhaid sicrhau bod enw ar bob eitem a bod llythyr yn esbonio beth i’w wneud a phryd i roi’r moddion, wedi’i lofnodi gan riant / warchodwr.)

Does dim hawl gan unrhyw un i ddod â ‘straighners’ gyda nhw i Langrannog.

Does dim angen ffonau symudol na IPODs ayyb chwaith.

Byddwn yn gadael Llangrannog am ddau o’r gloch ar y dydd Sul felly gobeithiwn fod yn ôl yn yr ysgol tua 5 o’r gloch.

Os oes unrhyw gwestiwn gyda chi am y daith i Langrannog, cysylltwch gyda fi yn yr ysgol.

Diolch,
Miss Passmore.


^yn ôl i'r brif restr