Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

9th November 2014

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:

Wythnos Gwerthoedd:

Yn ystod yr wythnos hon, byddwn yn gwahodd rhieni a gwarchodwyr mewn i'r ysgol i weithio gyda'u plant ar werth y tymor.

Dydd Mawrth:

Clybiau ar ôl ysgol:

Clwb gwnïo ar gyfer plant blwyddyn 2 tan 4:30. (50c)

Clwb chwaraeon ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Clwb rygbi ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.

Ffair Lyfrau yn y neuadd ar ôl ysgol tan 4:30.

Dydd Mercher:

Noson Agored i rieni blwyddyn 6 yn Ysgol Gyfun Gwynllyw.
Cyfarfod anffurfiol - 4:30.
Cyfarfod ffurfiol - 6 o'r gloch.

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30. (£1)

Dydd Iau:

‘Yr Hwyaden Fach Hyll’
Sioe Cyfnod Sylfaen (£8.50)

Ymarfer côr ar ôl ysgol tan 4:30.

Dydd Gwener:

Plant Mewn Angen:
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad eu hunain heddiw os ydynt yn dymuno. Cyfraniad tuag at Plant Mewn Angen.

Taith Llangrannog blynyddoedd 5 a 6.
Byddwn yn gadael yr ysgol am 1 o'r gloch.

Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr