Gwefan Easyfundraising:

Gwefan Easyfundraising:

11th November 2014

Ydych chi'n gwneud eich siopa ar lein?

Os mai’r ateb yw ‘ydw’, gallech chi fod yn gwneud arian i’r ysgol, heb gostio unrhyw beth i chi. Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw siopa trwy wefan ‘easy fundraising’. Unwaith rydych chi wedi ymuno, gallwch chi siopa mewn nifer fawr o siopau a chwmnïoedd gwahanol a ni fydd hwn yn costio unrhyw arian ychwanegol i chi.

Er enghraifft, os ydych yn siopa ar notonthehighstreet.com, bydd cyfraniad o 5% o gost eich nwyddau yn mynd yn syth i’r ysgol. Os ydych yn gwario £20 yno, bydd £1 yn mynd yn syth i’r ysgol. Os ydych yn prynu eich yswiriant car ar lein, gall cymaint â £20 fod yn mynd tuag at yr ysgol. Yn ystod yr wythnosau nesaf yn arwain lan ar y Nadolig, gallwn ni fod yn gwneud cannoedd, os nad miloedd o bunnoedd i’r ysgol.

Hyd yn hyn, rydym wedi casglu £157 ar gyfer yr ysgol, er mai nifer fach iawn o bobl sydd wedi ymuno gyda’r ymgyrch. Os ydyn ni’n denu mwy o aelodau, gallwn casglu llawer mwy o arian. Unwaith i chi ymuno gyda’r ymgyrch, gallwch chi ddanfon e-bost at eich ffrindiau, aelodau teulu neu gymdogion a gwneud mwy o arian i’r ysgol. Unwaith i’r bobl hynny godi £10, bydd £5 yn mynd tuag at yr ysgol yn awtomatig.

Mae’n hawdd i ymuno gyda ni. Gallwch chi lawr lwytho’r ap i’ch ffôn hyd yn oed. Yr unig beth sy’n rhaid i chi ei wneud yw mynd i
easyfundraising.org.uk

a dewis Ysgol Gymraeg Cwmbran PTA. Gofynnwn yn garedig i chi ymuno gyda ni heddiw a dechrau gwneud arian i’r ysgol.

Diolch yn fawr iawn.

Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr