SCHOOP:
3rd December 2014
CYHOEDDIAD PWYSIG:
Mae Ysgol Gymraeg Cwmbrân yn falch i gyhoeddi ein bod ni yn un o’r ysgolion cyntaf i fabwysiadu App newydd i ysgolion o’r enw Schoop.
Mae Schoop yn ffordd newydd o gysylltu a chyfathrebu gyda chi fel rhieni ac hefyd i gymuned yr ysgol. Gyda’ch cydweithrediad drwy lwytho’r app, bydd yr ysgol gyfan ac addysg eich plentyn yn elwa.
Os oes gennych iPhone, iPad, ffôn Android neu tablet:
1. Ar eich iPhone neu iPad cliciwch y botwm App Store.
2. Ar eich ffôn Android cliciwch y botwm Google Play.
3. Chwiliwch am Schoop a lawr lwythwch yr App am ddim.
4. Rhedwch yr App a dilynwch y cyfarwyddiadau.
5. Mewnbynnwch y Schoop ID 10319
6. Gwasgwch y blynyddoedd a’r grwpiau sy’n berthnasol i chi e.e. yr Urdd, blwyddyn 3, y côr ayyb.
7. A dyna ni!
Os oes gennych Windows Mobile, Blackberry, PC neu Mac :
1. Ewch i www.schoop.co.uk.
2. Mewnbynnwch y Schoop ID: 10319.
3. Adiwch eich cyfeiriad e-bost a gwasgwch y blynyddoedd a’r grwpiau sy’n berthnasol i chi e.e. yr Urdd, blwyddyn 3 a’r côr.
4. Dewiswch iaith berthnasol.
5. Gwasgwch CONFIRM a dyna ni!