Diwrnod E-ddiogelwch 2015:
10th February 2015
Heddiw, rydym yn cymryd rhan mewn diwrnod e-ddiogelwch yn yr ysgol.
Bore 'ma, cafwyd gwasanaeth ysgol gyfan e-ddiogelwch gan Miss Passmore.
Yn ystod yr ail sesiwn, aeth disgyblion blwyddyn 6 i bob dosbarth er mwyn rhoi gwers ar e-ddiogelwch. Gweithiodd y disgyblion yn galed iawn wrth baratoi ar gyfer y gwersi hyn ac roedd pob un yn llwyddiannus iawn.
Prynhawn 'ma, cafwyd gweithdy e-ddiogelwch CA2 gan PC Thomas a chyfarfod i rieni / gwarchodwyr.
Os oes amser gyda chi i drafod e-ddiogelwch gyda'ch plentyn / plant heno, edrychwch ar y wefan isod. Mae'n hollbwysig ein bod ni'n gweithio gyda rhieni / gwarchodwyr er mwyn sicrhau bod y we yn lle saff ar gyfer ein disgyblion.
Diolch yn fawr iawn.