Trefniadau'r Wythnos:
20th February 2015
Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
Dydd Llun:
Diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd.
Does dim ysgol i'r disgyblion heddiw.
Dydd Mawrth:
Bydd y disgyblion yn ol yn yr ysgol heddiw.
Clybiau:
Dawnsio Creadigol tan 4:30.
Pêl droed blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30 yn yr ysgol.
Gwnio blwyddyn 3 tan 4:30.
Clwb Ffitrwydd blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Mercher:
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
Clwb yr Urdd 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Miss Owen.
(Bl 4/5)
Ymarfer dawnsio creadigol amser cinio.
(Bydd angen dillad addas os gwelwch yn dda.)
Cystadleuaeth Pel-droed yr Urdd.
(Llythyr i ddilyn.)
Ymarfer côr tan 4:30.
Cyfarfod i rieni blwyddyn 6 gyda phlant yn mynd i Ysgol Gyfun Gwynllyw.
Bydd y cyfarfod yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân am 6 o'r gloch.
Dydd Gwener:
Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. (1-2:30)
Beirniadu Gwaith Celf yr Urdd.
Dydd Sadwrn:
Arddangosfa Celf yr Urdd.
Canolfan y Methodistiaid, Coeduon rhwng 9 y bore a 2 y prynhawn.
Croeso cynnes i bawb.
Diolch yn fawr.