Eisteddfod Gylch yr Urdd. (Dydd Sadwrn, Mawrth 7fed)
2nd March 2015
Bydd y llythyr hwn yn mynd adref heno:
Annwyl Riant / Warchodwr,
Rydym wedi derbyn copi drafft o’r rhaglen ar gyfer yr Eisteddfod ddydd Sadwrn. Efallai gall pethau newid yn ystod yr wythnos ond, ar y cyfan, dylai pethau aros yr un peth.
Mae rhai cystadlaethau yn mynd yn syth trwy i’r Sir felly does dim angen i’r pethau hyn gystadlu ddydd Sadwrn. Y pethau sy’n mynd yn syth trwy i’r Sir ar ddydd Sadwrn, Mawrth 21ain yw:
Côr / Ensemble lleisiol (Does dim angen i blant sy’n y côr yn unig fod yno dydd Sadwrn.)
Cofiwch nad oes yn rhaid i'r dawnsio creadigol gystadlu tan nos Iau, Mawrth 19eg.
Bydd yr Eisteddfod Gylch yn digwydd ddydd Sadwrn yn Ysgol Uwchradd Llanwern (NP18 2YE)
Bydd yr Eisteddfod eleni ychydig yn wahanol i'r Eisteddfodau blaenorol. Eleni, am y tro cyntaf, bydd rhagbrofion yn y bore ar gyfer pob cystadleuaeth unigol a'r ddeuawd. Bydd y brif Eisteddfod yn dechrau am 10:30 o'r gloch.
Dyma restr o’r rhai sydd angen bod yno ar gyfer y rhagbrofion o 8 o’r gloch ymlaen:
Bydd y llefaru yn digwydd mewn un ystafell a’r canu mewn ystafell arall.
Cystadleuaeth:
Unawd blwyddyn 2 ac iau
Max Webb
Ellis Eckley
Unawd blwyddyn 3 a 4
Isaac Smith
Ruby Lee
Unawd blwyddyn 5 a 6
Daniel Lee
Naomi Nicolaou
Alaw werin
Kai Fish
Martha Smith
Deuawd
Martha a Daniel
Nell a Naomi
Llefaru blwyddyn 2 ac iau
Taliesin Lewis
Lowri Nicholls
Llefaru blwyddyn 3 a 4
Megan Teague
Menna Roberts
Llefaru blwyddyn 5 a 6
Jasmine Ellis
Kai Fish
Bydd angen i’r parti deulais, unsain, y grŵp llefaru a’r ymgom fod yno tua 11 o’r gloch.
Cofiwch bod cost mynediad i’r Eisteddfod o tua £2/£3. (Does dim rhaid i’r cystadleuwyr dalu.)
Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi, cysylltwch gyda fi yn yr ysgol.
Diolch,
Miss Passmore.