Trefniadau'r Wythnos:
13th March 2015
Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
Diolch am ein helpu ni i godi £204 ar ddiwrnod y Trwynau Cochion.
Llongyfarchiadau i ddosbarth Miss Hughes am ennill presenoldeb yr wythnos gyda 99.6%. Da iawn i bob un.
Dydd Llun:
Clwb drama ar gyfer disgyblion 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Chwythbrennau yn y neuadd am 11 o'r gloch i'r ysgol gyfan.
Clybiau:
Dawnsio Creadigol tan 5.
Pêl droed blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30 yn yr ysgol.
Gwnio blwyddyn 3 tan 4:30.
Clwb Ffitrwydd blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Mercher:
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
Clwb yr Urdd 3 a 4 tan 4:30.
*** Ymarfer cor heno tan 5, yn lle nos 'fory gan fod yr Eitseddfod ar gyfer y dawnsio creadigol. ***
Bydd dosbarth Mr Passmore yn mynd i wylio Caerdydd yn chwarae hoci iâ heno.
(Llythyr i ddilyn.)
Bydd y disgyblion yn cwrdd am 6:15 tu fas i'r ysgol.
Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Miss Owen.
(Bl 4/5)
Ymarfer dawnsio creadigol amser cinio. (Bydd angen dillad addas os gwelwch yn dda.)
Eisteddfod Sir yr Urdd ar gyfer y dawnsio creadigol yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni am 5 o'r gloch.
(Ysgol Gyfun Cwm Rhymni,
Heol Gelli Haf,
Fleur De Lys,
Y Coed Duon,
NP12 3JQ.)
** DOES DIM ymarfer côr heno. **
Clwb darllen blwyddyn 6 amser cinio.
Dydd Gwener:
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn mynd i Wynllyw ar gyfer helfa drysor rhwng 10 a 12.
Byddwn yn ôl yn yr ysgol erbyn amser cinio os hoffent ginio ysgol.
Gwisg ysgol os gwelwch yn dda.
Clwb darllen blwyddyn 6 amser cinio.
Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. (1-2:30)
Bydd plant dosbarth Miss Faulknall yn derbyn gwers ffidil heddiw.
(9:15 - 10:30)
Diolch yn fawr.