Trefniadau'r Wythnos:
20th March 2015
Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
Llongyfarchiadau i ddosbarth Miss Passmore am ennill presenoldeb yr wythnos gyda 99.8%. Da iawn i bob un.
** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon. Bydd Clwb Plant y Tri Arth yn rhedeg fel arfer. **
Dydd Llun:
Dim clwb drama.
Dydd Mawrth:
Dim clybiau ar ôl ysgol.
Dydd Mercher:
Trip dosbarth Miss Griffiths.
Waste Savers.
9:45 - 11:45.
Byddwn yn ol erbyn amser cinio er mwyn cael cinio ysgol.
Gwisg ysgol os gwelwch yn dda.
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
Dim clwb yr Urdd.
Dydd Iau:
Trip dosbarth Miss Williams.
Waste Savers.
9:45 - 11:45.
Byddwn yn ol erbyn amser cinio er mwyn cael cinio ysgol.
Gwisg ysgol os gwelwch yn dda.
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Miss Owen.
(Bl 4/5)
Gweithdy Gwyddoniaeth:
Bydd yr ysgol gyfan yn derbyn gweithdy gwyddoniaeth yn y neuadd rhwng 10 a 10:30.
Bydd disgyblion CA2 yn cymryd rhan mewn gweithdy arall rhwng 10:45 a 11:30.
Does dim ymarfer côr heno.
Clwb darllen blwyddyn 6 amser cinio.
Dydd Gwener:
Gweithdy RNLI: Bydd disgyblion CA2 yn cymryd rhan mewn gweithdy sydd wedi'i drefnu gan y RNLI.
Clwb darllen blwyddyn 6 amser cinio.
Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. (1-2:30)
Bydd plant dosbarth Miss Faulknall yn derbyn gwers ffidil heddiw.
(9:15 - 10:30)
Stondin gacennau PTA.
Bydd y PTA yn gwerthu cacennau ar yr iard ar ol ysgol heddiw.
Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad o gacennau. Diolch o flaen llaw.
Byddwn yn gorffen ar gyfer Pasg heddiw.
Bydd y disgyblion yn dechrau'n ôl ar ddydd Llun, Ebril 13eg.
Mwynhewch y gwyliau.
Diolch yn fawr.