Gwaith Cyngor yr Ysgol:
25th March 2015
Dyma adroddiad gan Kaytlin ar waith y cyngor dros yr wythnosau diwethaf a'r bwriad ar gyfer yr wythnosau nesaf:
Dros y Pasg, mae’r cyngor ysgol wedi penderfynu creu cystadleuaeth dylunio blwch syniadau newydd.
Mae’r plant sydd eisiau cystadlu’n gallu dylunio’r blwch ar y daflen sut bynnag maen nhw moyn.
Mae hawl gyda’r plant i ddefnyddio unrhyw beth i wneud eu dyluniad yn ddeniadol ac yn lliwgar. Mae un rheol, does dim hawl i neb brintio unrhyw beth o’r we i ludo ar y daflen, gallech chi gael syniadau o’r we , ond does dim hawl i chi brintio.
Bydd yr enillydd yn peintio neu’n lliwio neu gludo’r blwch syniadau sut bynnag a ddylunion nhw ar y darn o bapur. Pob lwc i bawb!
Hefyd, bydd y cyngor yn edrych ar becynnau cinio yn ystod amser cinio. Bydd y cyngor yn dosbarthu tocynnau bwyd iach a bydd gwobrau i rai.
Pob lwc i bawb!