Trefniadau'r Wythnos:
12th April 2015
Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
Gobeithio eich bod chi i gyd wedi cael gwyliau da. Bydd y disgyblion yn dechrau'n ol yn yr ysgol yfory.
Cofiwch bod prisoedd cinio ysgol yn cynyddu'r wythnos hon:
Plant y Cyfnod Sylfaen: £2.
Disgyblion CA2: £2.10
** Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon. Bydd Clwb Plant y Tri Arth yn rhedeg fel arfer. **
Dydd Llun:
Cystadleuaeth Hetiau Pasg:
Os ydy eich plentyn eisiau cymryd rhan yn y gystadleuaeth hetiau Pasg (Meithrin - Bl 2), gall e / hi ddod a'r het i'r ysgol heddiw.
Bydd gwobrau i'r enillwyr.
Dim clwb drama.
Dydd Mawrth:
Dim clybiau ar ôl ysgol.
Dydd Mercher:
Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.
Dim clwb yr Urdd.
Dydd Iau:
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Miss Owen.
(Bl 4/5)
Does dim ymarfer côr heno.
Clwb darllen blwyddyn 6 amser cinio.
Disgo PTA rhwng 6 a 7 yn neuadd yr ysgol.
£1. Croeso cynnes i bawb.
Dydd Gwener:
Clwb darllen blwyddyn 6 amser cinio.
Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. (1-2:30)
Bydd plant dosbarth Miss Faulknall yn derbyn gwers ffidil heddiw.
(9:15 - 10:30)
Twrnament pel-rwyd a rygbi heddiw.
(Llythyr i ddilyn.)
Gall dosbarth Miss Enfys Owen (derbyn) wisgo dillad eu hunain heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Mawrth gyda 98%.
Diolch yn fawr.