Cyngerdd yr Eisteddfod:
24th April 2015
Ar nos Fercher, Mai 20fed, byddwn yn cynnal cyngerdd ar y cyd gydag Ysgol Panteg er mwyn codi arian i’r ysgol ac er lles yr holl ddisgyblion.
Bydd yn gyfle i wylio’r eitemau fydd yn perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ystod yr wythnos ganlynol.
Mae’r disgyblion ac aelodau o staff wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn ymarfer dros y misoedd diwethaf felly bydd y gyngerdd yn gyfle gwych i’r disgyblion berfformio ac ymarfer unwaith eto cyn yr Eisteddfod.
Bydd y gyngerdd yn un fer; o 6:00 – 7:30 a chost mynediad ar gyfer y gyngerdd fydd £3. Rydym yn lwcus iawn i gael Theatr y Congress, Cwmbrân fel lleoliad ar gyfer y gyngerdd.
Bydd tocynnau ar gael yn y swyddfa gyda Ms Painter o wythnos nesaf ymlaen.
Dewch yn llu i gefnogi'r disgyblion.
Diolch yn fawr.