Trefniadau'r Wythnos:

Trefniadau'r Wythnos:

1st May 2015

Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wythnos yma:

Llongyfarchiadau i ddosbarth Miss Passmore am ennill presenoldeb yr wythnos wythnos diwethaf.

** Bydd y profion rhifedd a llythrennedd yn digwydd yr wythnos hon ar gyfer disgyblion o flynyddoedd 2 i 6. **

Dydd Llun:

Gwyl y Banc - dim ysgol.

Dydd Mawrth:

Clybiau ar ôl ysgol:

Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 2 tan 4:30.

Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.

Dydd Mercher:

Clwb Gwyddbwyll yn ystod amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6.

Clwb yr Urdd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.

Ymarfer Cyflwyniad Dramatig tan 4:30.
(Ar gyfer y rhai sy'n cystadlu yn yr Eisteddfod.)

Dydd Iau:

Dim gwers nofio heddiw.

Ymarfer côr tan 4:30.

Dydd Gwener:

Gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6. (1-2:30)

Bydd PC Thomas yn cynnal gweithdy gyda disgyblion blwyddyn 1 heddiw.

Stondin Hufen Iâ:
Bydd y PTA cynnal stondin hufen iâ ar iard yr adran iau ar ol ysgol dydd Gwener.

Dewch i gefnogi!

Diolch yn fawr.


^yn ôl i'r brif restr