parkrun Pontypwl:

parkrun Pontypwl:

6th May 2015

Rydym yn gobeithio cael nifer fawr o ddisgyblion i gymryd rhan yn parkrun Pontypwl ar fore dydd Sul am 9 o'r gloch.

Dyma ddigwyddiad 2K wythnosol sydd yn gyfle gwych i annog pobl ifanc rhwng 4 a 14 oed i gadw’n heini.

Mae’r digwyddiad am ddim a chaiff ei drefnu gan gwirfoddolwyr. Os ydych chi'n teimlo'n gystadleuol ac hoffech chi dderbyn eich amser ar ddiwedd y cwrs rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw, caiff oedolion ymuno mewn gyda’r plant.
Mewn cydweithrediad a’r trefnwyr rydym wedi trefnu ein bod yn gwahodd disgyblion ysgolion cynradd Cymraeg yr ardal i ymuno yn y ras er mwyn codi arian tuag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd caiff ei chynnal ar ddiwedd Mai rhwng 25 – 30 Mai yn LLancaiach Fawr, Nelson. Dyma Gwyl Ieuenctid Fwyaf Ewrop.

Er mwyn cymryd rhan rydym yn gofyn yn garedig ichi gasglu noddwyr ar y daflen drosodd NEU talu £3 i gymryd rhan ar y diwrnod.

Gobeithiwn eich gweld chi yno.

Diolch yn fawr.


Related Links


^yn ôl i'r brif restr