Ras parkrun Pontypool:
10th May 2015
Diolch yn fawr iawn i bawb ddaeth mas i gefnogi'r parkrun bore 'ma.
Rhedodd dros 100 o blant bore 'ma ac roedd yn wych gweld cymaint o ddisgyblion yr ysgol yno'n cefnogi.
Roedd yn fore hyfryd ac roedd yr awyrgylch ym Mharc Pontypwl yn wych. Roedd ymdrech arbenning i gasglu'r arian tuag at Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili a chasglwyd dros £300 sy'n wych.
Mae'r parkrun yn digwydd bob wythnos ar fore dydd Sul ac mae'n gyfle gwych i gadw'n heini a chynnal diddordeb y plant mewn rhedeg.
Diolch yn fawr iawn i bob un am eich cefnogaeth a da iawn chi.
Diolch.