Trefniadau'r Wythnos:

14th June 2015
Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân wythnos yma:
Llongyfarchiadau i ddosbarth Miss Wena Williams am ennill presenoldeb yr wythnos wythnos diwethaf.
Dydd Llun:
Bydd athrawon Gwynllyw yma'n dysgu blwyddyn 6.
Taith dosbarthiadau Miss Enfys Owen a Mrs Spansiwck i Walnut Tree Farm.
Gofynnwn yn garedig i'r disgyblion ddod yn eu gwisg ysgol os gwelwch yn dda.
Clwb drama i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Mawrth:
Dim gwasanaeth Disgybl yr wythnos.
Clwb beicio ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 tan 4:30.
Clwb coginio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30.
Clwb ffitrwydd ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Noson Agored i rieni newydd y derbyn.
(6-7 yn neuadd yr ysgol.)
Dydd Mercher:
Ymarfer rygbi ar gyfer blynyddoedd 4 a 5 yn ystod amser cinio.
(Gofynnwn yn garedig i chi ddod â gwisg ymarfer corff os gwelwch yn dda.)
Clwb yr Urdd Blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Iau:
Mabolgampau y Cyfnod Sylfaen.
Dechrau am 09:30.
Byddwn yn eich diweddaru ar SCHOOP.
Bydd y PTA yn trefnu lluniaeth trwy'r dydd.
Gwers nofio ar gyfer dosbarth Miss Wena Williams.
Ymarfer côr tan 4:30.
Dydd Gwener:
Mabolgampau Cyfnod Allweddol 2.
Dechrau am 09:30.
Byddwn yn eich diweddaru ar SCHOOP.
Bydd y PTA yn trefnu lluniaeth trwy'r dydd.
Dim gwers hoci ar gyfer disgyblion blwyddyn 6.
Diolch yn fawr.