Trefniadau'r Wythnos:
16th October 2015
Dyma rai pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
Does dim lliw yr wythnos yn y feithrin. Bydd y plant yn adolygu lliwiau'r tymor.
Dydd Llun:
Clwb Drama ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Adran yr Urdd, Pontypwl.
NEUADD ISAF IAGO SANT, HEOL HANBURY, PONTYPWL RHWNG 4.30PM – 6PM.
Disgyblion blwyddyn 3 i 6. £1.
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
9:10 yn neuadd yr ysgol.
Clwb gwnio ar gyfer plant blwyddyn 2 tan 4:30.
Ymarfer côr tan 4:30.
Dydd Mercher:
Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
(£1)
Dydd Iau:
Bydd dosbarth blwyddyn 4 Miss Wena Williams yn derbyn gwers nofio bore 'ma.
Clwb rygbi ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Gwener:
Bydd plant dosbarth Miss Hughes yn derbyn gwers ffidil heddiw.
(9:10-10:30)
Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Stondin gacennau ar ol ysgol ar yr iard.
Gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad o gacennau wedi'u prynu neu rai wed'u gwneud adref.
Byddwn yn torri lan ar ddydd Gwener ar gyfer hanner tymor.
Byddwn yn ail ddechrau'n yr ysgol ar ddydd Llun, Tachwedd 2il.
Dydd Sul:
Disgo PTA 3:30-5:30.
White Hut.
£2 y plentyn.
Diolch yn fawr.