Trefniadau'r Wythnos:
6th December 2015
Dyma drefniadau'r wythnos yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân ar gyfer yr wythnos hon:
Does dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth.
Dydd Mawrth:
Bydd y côr yn canu yn Nghwmbrân o 2:30 ymlaen.
Gwisg ysgol. Bydd y disgyblion yn gorffen am 4 o'r gloch.
Dydd Mercher:
Bydd cinio Nadolig yn cael ei gynnig fel cinio ysgol heddiw.
(Yr yn pris a'r arfer.)
Clwb Gwyddbwyll ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
Cystadleuaeth Pêl-rwyd ar gyfer y tîm.
Stadiwm Cwmbrân rhwng 9 a 2.
Ymarfer côr ar gyfer y gyngerdd Nadolig.
Gwisg ysgol os gwelwch yn dda. Bydd y disgyblion yn ol yn yr ysgol erbyn amser cinio.
10-11:45 yn ysgol Eveswell.
Dydd Iau:
Dim gwers nofio i ddosbarth Miss Williams heddiw.
Bydd disgyblion CA2 yn cerdded i Eglwys St. Gabriel rhwng 10:30 a 12 heddiw.
(Does dim angen eich caniatad gan fod hwn wedi'i roi ar ddechrau'r flwyddyn yn barod.)
Cyngerdd Nadolig CA2 yn Eglwys St. Gabriel am 6.
Cwrdd yn y festri am 5:45.
Dydd Gwener:
Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Diolch yn fawr.