Presenoldeb y Mis:
30th January 2016
Llongyfarchiadau i ddosbarth Mr Bridson am ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Ionawr.
Cafodd y dosbarth bresenoldeb o 98.4% ar gyfer y mis. Dosbarth Miss Griffiths a Mrs Dalgleish oedd yn ail gyda 97.4% felly da iawn i'r dosbarthiadau hynny hefyd.
Gall dosbarth Mr Bridson wisgo dillad eu hunain i'r ysgol ddydd Gwener. Yn ogystal â hyn, fel gwobr ychwanegol, bydd y dosbarth yn mynd i'r sinema i weld 'Oddball and the Penguins' ar ddydd Iau, Chwefror 11eg, diolch i Into Film Cymru.
(Danfonwyd llythyr adref gyda'r disgyblion ddoe.)
Da iawn i bob un; daliwch ati.