Diwrnod E-ddiogelwch:
9th February 2016
Heddiw, rydym wedi bod yn dathlu diwrnod e-ddiogelwch yn yr ysgol.
Mae disgyblion blwyddyn 6 wedi bod yn brysur iawn dros yr wythnosau diwethaf yn paratoi gwersi ar e-ddiogelwch. Bore 'ma, aeth rhai o ddisgyblion blwyddyn 6 i bob dosbarth er mwyn rhoi cyflwyniad ar e-ddiogelwch ac i osod tasg i'r disgyblion.
Cafodd y disgyblion wasanaeth ar e-ddiogelwch ac yfory, bydd PC Thomas yn ymweld â disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 i roi gweithdy ar e-ddiogelwch.
Am fwy o wybodaeth ar e-ddiogelwch, ewch i'r wefan isod.
Diolch yn fawr.