Trefniadau'r Wythnos:
25th February 2016
Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
Dydd Llun:
Adran yr Urdd, Pontypwl.
NEUADD ISAF IAGO SANT, HEOL HANBURY, PONTYPWL RHWNG 4.30PM – 6PM.
Disgyblion blwyddyn 3 i 6. £1.
Clwb Drama ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
Dydd Mawrth:
Dydd Gwyl Dewi:
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu dillad traddodiadol / crysau rygbi a phel-droed os ydynt yn dymuno. Bydd gwasanaeth arbennig gyda ni yn ystod y bore.
Bydd y côr yn canu ym Mhontypwl yn y prynhawn.
Gall y disgyblion wisgo eu dillad traddodiadol ar gyfer y gyngerdd.
Clwb gwnio ar gyfer disgyblion blwyddyn 3 tan 4:30.
Ymarfer côr tan 4:30.
Dydd Mercher:
Cyfarfod PTA:
Llyfrgell yr ysgol am 3:30. Croeso cynnes i bawb.
Bydd PC Thomas yn dod i siarad gyda disgyblion blwyddyn 6 am gyffuriau.
Clwb Gwyddbwyll ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 tan 4:30.
(£1)
Bydd Western Power yn dod i gynnal gweithdy gyda disgyblion blwyddyn 5 am 1:30.
Dydd Iau:
Diwrnod y Llyfr:
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol wedi gwisgo fel cymeriad o lyfr os ydynt yn dymuno.
Bydd gwobrau i'r gwisgoedd gorau.
Bydd disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths yn derbyn gwers nofio bore 'ma.
Clwb pel-droed ar ôl ysgol tan 4:30.
Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ar ôl ysgol tan 4:30.
Yn ystod clwb ffitrwydd yr hanner tymor hwn, bydd cyfle i'r disgyblion wneud dawns / dawns stryd.
Bydd y côr yn canu yn yr Wyl Gorawl yng Nghwmbrân am 7 o'r gloch.
Gofynnwn yn garedig i'r disgyblion fod yno erbyn 6:40 yn eu gwisg côr os gwelwch yn dda.
Dydd Gwener:
Bydd plant dosbarth Miss Hughes yn cystadlu mewn cystadleuaeth wedi'i threfnu gan Gwent Music heddiw.
Canolfan Casnewydd am 10:30. Bydd y plant yn ol erbyn amser cinio.
Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.
Gwers hoci blwyddyn 6.
Diolch yn fawr.