Trefniadau'r Côr wythnos nesaf:
26th February 2016
Mae wythnos brysur gyda phlant y côr wythnos nesaf felly dyma'r trefniadau:
Neges fach i’ch atgoffa ein bod yn mynd i Bontypŵl i ganu prynhawn Dydd Mawrth nesaf (y 1af o Fawrth). Bydd y plant yn cael eu cinio yn gyntaf ac fe fyddwn yn ôl erbyn diwedd y dydd. Gall y plant aros yn eu gwisg Cymreig i ganu.
Os nad ydych chi eisiau i’ch plentyn ddod gyda ni i Bontypŵl, a wnewch chi adael i ni wybod cyn gynted a phosib.
Cofiwch hefyd am ein cyngerdd yn Theatr y Gyngres nos Iau (y 3ydd o Fawrth). Gofynnwn i’r plant fod yno erbyn 6:40yh yn eu gwisg côr.
Mae tocynnau ar werth yn swyddfa’r ysgol am £2.
Diolch, Miss Hughes a Miss Griffiths.