Trefniadau'r Wythnos:
17th March 2016
Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
** Fydd dim clybiau ar ol ysgol yr wythnos hon, ar wahân i'r wers dawnsio stryd nos Iau tan 4:30 a Chlwb Plant y Tri Arth. **
Byddwn yn gorffen ar gyfer gwyliau'r Pasg ddydd Iau. Bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ar ddydd Mawrth, Ebrill 12fed gan fod y dydd Llun yn ddiwrnod o hyfforddiant ar gyfer athrawon.
Dydd Llun:
Bydd disgyblion blwyddyn 4 yn derbyn gweithdy ar ailgylchu heddiw.
Adran yr Urdd, Pontypwl.
NEUADD ISAF IAGO SANT, HEOL HANBURY, PONTYPWL RHWNG 4.30PM – 6PM.
Disgyblion blwyddyn 3 i 6. £1.
Dydd Mawrth:
Gwasanaeth Disgybl yr Wythnos.
09:10 yn neuadd yr ysgol.
Bydd disgyblion blwyddyn 6 yn treulio'r dydd yng Ngwynllyw heddiw.
Bydd angen iddynt wisgo eu gwisg ysgol os gwelwch yn dda a nid oes angen pecyn cinio arnynt gan fod Gwynllyw yn darparu cinio.
Bydd Mrs Lowri Davies yn cynnal dosbarth 'Kettlebells' i rieni / gwarchodwyr yn neuadd yr ysgol am 5 o'r gloch. (£3.50) Croeso cynnes i bawb.
Dydd Mercher:
Bydd pedwar o ddisgyblion blynyddoedd 4 a 5 yn cystadlu mewn cwis 'Keep Me Safe am 6:15 yn Ysgol Uwhchradd Cwmbrân. Pob lwc i bob un.
Dydd Iau:
Lluniau dosbarthiadau - gofynnwn yn garedig i'r disgyblion wisgo eu gwsig ysgol heddiw.
Clwb Ffitrwydd Dawns Stryd tan 4:30 heno. (Blynyddoedd 4, 5 a 6)
Bydd disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths yn derbyn gwers nofio bore 'ma.
(* Bydd y disgyblion yn cael eu llun dosbarth cyn mynd i'r wers nofio.*)
Byddwn yn cau ar gyfer gwyliau'r Pasg am 3:30 heddiw. Diolch.
Diolch yn fawr.