Trefniadau'r Wythnos:
24th March 2016
Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
** Fydd dim clybiau ar ôl ysgol yr wythnos hon, ar wahân i Glwb Plant y Tri Arth. **
Dydd Llun:
Diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd - dim ysgol i'r disgyblion.
Dydd Mawrth:
** Cofiwch bod angen i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 ddod â'u hesgidiau ymarfer corff i'r ysgol bob dydd o heddiw ymlaen. (Gweler y llythyr yn y rhan 'Llythyron Adref' ar y wefan.) **
Bydd y disgyblion yn ail ddechrau ar gyfer tymor yr haf heddiw.
Dydd Mercher:
Bydd dosbarth Miss Passmore yn derbyn sesiwn hyfforddi pel-droed gan Glwb pel-droed Casnewydd prynhawn 'ma.
(A phob pythefnos ar ol heddiw.)
Dydd Iau:
Cystadleuaeth Pêl-droed merched yr Urdd.
Yn Stadiwm Cwmbrân drwy'r dydd. Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion.
(Mae'r disgyblion wedi derbyn llythyr.)
Bydd disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths yn derbyn gwers nofio bore 'ma.
Dydd Gwener:
Gwers hoci blwyddyn 6.
Gwers ffidil dosbarth Mrs Dalgleish.
Sioe Gwyddoniaeth / Hylendid Bwyd ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2.
Gall disgyblion dosbarth Mr Bridson wisgo dillad eu hunain i'r ysgol heddiw gan eu bod wedi ennill presenoldeb y mis ar gyfer mis Mawrth.
Bydd aelodau o'r PTA yn gwerthu hufen iâ ar yr iard bob prynhawn dydd Gwener o heddiw ymlaen.
(50c)
Diolch yn fawr.