Trefniadau'r Wythnos:
14th April 2016
Dyma rai pethau sy'n digwydd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân yr wythnos hon:
Bydd clybiau ar ôl ysgol yn ail ddechrau yr wythnos hon.
Dydd Llun:
Adran yr Urdd, Pontypwl.
NEUADD ISAF IAGO SANT, HEOL HANBURY, PONTYPWL RHWNG 4.30PM – 6PM.
Disgyblion blwyddyn 3 i 6. £1.
Clwb Drama ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
Dydd Mawrth:
Clwb coginio ar gyfer dosbarth Mrs Dalgleish tan 4:30. (£1)
Ymarfer côr tan 4:30.
Dydd Mercher:
Clwb rhedeg ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod amser cinio.
(Bydd angen pecyn cinio ar y disgyblion hyn, yn ogystal â llythyr caniatâd.)
Clwb yr Urdd ar ôl ysgol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 a 4 tan 4:30.
(£1)
Dydd Iau:
Bydd disgyblion blwyddyn 4 Miss Griffiths yn derbyn gwers nofio bore 'ma.
Clwb ffitrwydd ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ar ôl ysgol tan 4:30.
Yn ystod clwb ffitrwydd yr hanner tymor hwn, bydd cyfle i'r disgyblion wneud athletau, criced, rhedeg, tennis, rownderi ayyb.
Cwis Eco. Bydd rhai disgyblion blynuddoedd 5 a 6 mynd i'r cwis eco heno.
(Bydd Miss Owen yn cwrdd â'r disgyblion tu fast i theatr y Congress am 5:45pm.)
Dydd Gwener:
Gwers ffidil dosbarth Mrs Dalgleish yn ystod y sesiwn gyntaf.
Clwb darllen amser cinio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6.
Gwers hoci blwyddyn 6.
PTA: Bydd y PTA yn gwerthu hufen iâ ar iard yr adran iau ar ddiwedd y dydd. (50c)
Diolch yn fawr.